Ein cyf/Our ref LF/VG/0807/15



David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF11 1NA

 

 

                                                                                                                        23 Medi 2015

 

Annwyl David,

 

Diolch am eich llythyr dyddiedig 8 Gorffennaf at Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, ynghylch cynigion y Comisiwn Ewropeaidd am fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (GM). Rwy’n ymateb gan fod y mater hwn yn dod o fewn fy mhortffolio i.

 

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw’r awdurdod cymwys ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (GM), ac fel Adran Anweinidogol y Llywodraeth, mae’r ASB yn cynghori Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Gweinidogion Cymru drwof i fel y Dirprwy Weinidog Iechyd. Mae gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ddiddordeb yn y mater hwn hefyd gan mai Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys yng Nghymru at ddibenion rhyddhau organebau wedi'u haddasu'n enetig yn fwriadol i’r amgylchedd.

 

Fe ofynnoch yn benodol am allu gweinyddiaethau datganoledig i wneud eu penderfyniadau eu hunain mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth arfaethedig hon. Mae’r ASB yn cynghori bod cynigion y Comisiwn Ewropeaidd i ddiwygio’r broses awdurdodi ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid GM, a hynny drwy ddiwygio Rheoliad 1829/2003, yn dal i fod yn y camau cynnar ac nid oes digon o sicrwydd yn bresennol o ran sut y byddai’r cynigion yn gweithio yn weithredol.

 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau cyfredol mewn perthynas â bwyd a bwyd anifeiliaid yng nghyd-destun yr Undeb Ewropeaidd (UE). Mae Gorchymyn Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 2) 2005 yn dynodi Gweinidog Cymru at ddibenion Adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â bwyd a bwyd anifeiliaid. At hynny, mae gan Weinidogion Cymru bwerau mewn perthynas â (yn yr iaith wreiddiol) “measures relating to the control and regulation of the deliberate release, placing on the market and trans-boundary movement of genetically modified organisms” o dan Orchymyn Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 4) 2003 Rhif 2901.

 

Byddai unrhyw asesiad i bennu p’un a yw’r pwerau a roddir drwy’r gorchmynion dynodi hyn yn ddigonol i ganiatáu i Weinidogion Cymru “wneud eu penderfyniadau eu hunain” yn golygu ystyried rheoliadau’r UE yn fanwl.

 

Roeddech chi hefyd yn holi am drafodaethau Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU). Mae’r ASB, fel yr awdurdod cymwys, yn sgwrsio’n rheolaidd â Llywodraeth y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd mewn perthynas â’r cynnig hwn. Ysgrifennodd y Gwir Anrhydeddus Elizabeth Truss, Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ataf yn ddiweddar i geisio fy marn ar y cynnig cyn cyfarfod Cyngor Amaeth a Physgodfeydd yr Undeb Ewropeaidd ym mis Gorffennaf.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi safbwynt Llywodraeth y DU, sef i beidio â chefnogi’r cynnig i ddiwygio Rheoliad 1829/2003, gan fod dadansoddiadau wedi codi nifer o bryderon:

 

·         mae’n tanseilio egwyddor marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd, egwyddor yr ydym ni’n ei chefnogi. Gallai effeithio ar ffrydiau masnach presennol mewn cynhyrchion GM i mewn ac o fewn yr UE;

·         mae gwaharddiadau cenedlaethol am resymau nad ydynt yn ymwneud â diogelwch yn tanseilio egwyddorion rheoliadau sy’n seiliedig ar wyddoniaeth, ac egwyddor caniatáu mynediad teg i’r farchnad ar gyfer cynhyrchion diogel;

·         hyd yn hyn, nid ydym wedi gallu nodi rhesymau nad ydynt yn ymwneud â diogelwch a allai gydymffurfio â WTO neu a ellir eu hamddiffyn o dan gyfraith yr UE;

·         mae sector da byw y DU yn dibynnu’n helaeth ar fwyd anifeiliaid GM a fewnforir, gan ddefnyddio mwy na 3 miliwn o dunelli y flwyddyn (70% o gyfanswm bwyd protein anifeiliaid y DU). Pe gwaherddir nifer o Aelod-wladwriaethau rhag defnyddio bwyd a bwyd anifeiliaid GM, gallai marchnad yr UE ddod yn llawer llai deniadol i’r prif wledydd allforio (Brasil, yr Ariannin ac Unol Daleithiau America (UDA)) ac nid ydym yn gwybod yr effaith ar gyflenwadau a chostau’r DU;

·         yr effaith negyddol ar fasnach ryngwladol ehangach;

·         mae eisoes wedi cael effaith andwyol ar drafodaethau ar gyfer Partneriaeth Buddsoddi mewn Masnach Drawsatlantig yr UE ac UDA.

 

Rwy’n nodi pryderon y Cynulliadau eraill a amlinellir yn eich llythyr. Mae ein pryderon ynghylch y cynigion, a nodir uchod, yn awgrymu peth tebygrwydd, yn arbennig o ran cydymffurfiaeth y cynigion â chyfraith yr UE ac egwyddor y farchnad sengl.

 

Rwy’n anfon copi o’r llythyr hwn at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

 

 

 

 

 

 

Vaughan Gething AC / AM

Y Dirprwy Weinidog lechyd 

Deputy Minister for Health